Stiwt a5263e9416a24afe9e42f93af633cd20 _DSC0112

Apêl Adfer Cloc y Stiwt

Apêl Adfer Cloc y Stiwt

Mae'r Stiwt yn gartref i theatr bwa proseniwm gyda 490 sedd, ynghyd â thair ystafell digwyddiadau hyblyg, wedi ei adeiladu a’i gynnal gan ac ar gyfer y gymuned leol. Fe'i hagorwyd gyntaf ar 25ain o Fedi 1926 a'i ailwampio a'i ailagor yn gyfan gwbl ym 1990.

Mae'r Stiwt yn cael ei redeg gan elusen gofrestrediig Ymddiriedolaeth Gelfyddydau’r Stiwt cyf. Ar do'r adeilad ac yn union uwchben y brif neuadd mae cloc gyda phedwar wyneb.

Yn wreiddiol, roedd mecanwaith y cloc yn cael eI weindio â llaw bob dydd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ar ôl i'r weindiwr ddringo i mewn i fecanwaith y cloc, penderfynodd ysgrifennu mewn sialc ar ddrysau'r cloc ddyddiadau ac amserau'r cyrchoedd awyr gynhaliwyd ar fynydd Rhos.

Mae'r cofnod hanesyddol unigryw hwn yn dal i fod yno hyd heddiw. Yn 1990 cafodd y mecanwaith ei drosi i drydan a thrwy wneud hynny, diddymu'r angen i gael ei weindio’n ddyddiol.

Oherwydd ei uchder, mae cynnal a chadw'r tu allan wedi bod yn broblematig ac yn ddrud. Y dyfynbris i adfer y cloc i'w gyn-ogoniant yw £10,000. Mae Cyngor Cymuned Rhos wedi addo i gyfranu £2,500 tuag at y gwaith, ar yr amod y gallwn ni sicrhau gweddill yr arian.

Mae Cyfeillion y Stiwt yn cynllunio digwyddiadau codi arian, ac mae'r Co-op wedi rhestru'r apêl fel prosiect lleol yn eu hapêl elusen. Rydym ni yn chwilio am £ 7,500 trwy roddion a chodi arian.

Sut gallwch chi helpu?

• Trefnu digwyddiad codi arian

• Gwnewch gyfraniad ar-leinhttp://www.justgiving.com/stiwtartstrust

• Cofrestrwch ein hapêl gyda'ch cerdyn Co-op coop.co.uk/membership

• Ewch i Theatr Y Stiwt i roi rhodd ariannol

• Siec yn daladwy i The Stiwt Arts Trust Ltd



Apêl Adfer Cloc y Stiwt