
Ti di Clywed?
Ysgol Penycae yn ymweld â'r Stiwt - Hydref 18fed
Ymwelodd disgyblion blwyddyn 3 a 4 Ysgol Penycae â Theatr y Stiwt yn ddiweddar i ddarganfod mwy am yr adeilad a’i hanes.
Roedd Mr Raymond Ellis hefyd yn bresennol i roi hanes uniongyrchol i'r plant o'i amser fel glöwr yng nglofa Bersham.
Dywedodd Kirsten Dodd, athrawes yr ysgol –
“ Diolch yn fawr iawn am ein croesawu i'r Stiwt.
Roedd yn brofiad bendigedig i’r holl blant a staff yr ysgol
Roedd y ‘powerpoint’ yn ddiddorol iawn, a chymerodd y plant y cyfan i mewn a gofyn rhai cwestiynau perthnasol!
Roedd y ‘Taith tu ôl i'r llenni’ yn arbennig iawn, a bu cymaint o gyffro pan aeth y llen haearn i fyny a’r plant yn gweld yr awditoriwm am y tro cyntaf!
Roeddent yn gadarnhaol iawn am eu hymweliad â'r Stiwt ac yn methu aros i ddweud y cyfan wrth eu rhieni ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
A diolch yn fawr iawn i (Uncle) Raymond Ellis am siarad â ni hefyd. Roedd ei straeon yn ddiddorol iawn a chafodd y plant eu swyno ganddo.
Roedd yn deimladwy iawn gweld ei gofebion gwerthfawr ac roedd y ffaith ei fod yn caniatáu i'r plant eu trin hefyd yn dangos ymddiriedaeth fawr.
Teimlodd pawb (plant a staff) ei bod yn wir fraint cael cwrdd ag ef, ac rydym yn ddiolchgar iddo am ddod i’n gweld.”
Cawsant hefyd fwynhau ymweliad â Llyfrgell Rhos yr un bore. Bore prysur iawn yn wir!

Raymond Ellis a'r myfyriwr Harry Jones

Y disgyblion yn gwrando ar y cyflwyniad

Ar lwyfan y Stiwt
Gwirfoddoli
Beth am ymuno â’r Stiwt fel gwirfoddolwr. ‘Rydym bob amser yn chwilio am bobl o bob oed i wirfoddoli mewn amrywiaeth o ffyrdd - gallai stiwardio ar gyfer digwyddiadau, bar coffi, swyddfa docynnau ac ati. Os oes gennych ddiddordeb ag amser rhydd, mi gewch hyfforddiant llawn. Gofynnwch am wybodaeth yn y Stiwt.