CÔR MEIBION RHOSLLANNERCHRUGOG - DATHLIAD O LEISIAU CYMREIG
Gwesteion: Hen Fegin - Sorela - Linda Griffiths
Daw Côr Meibion Rhos o bentref Rhosllannerchrugog (Rhos), rhyw bum milltir i’r de-orllewin o Wrecsam, Gogledd Cymru. Ffurfiwyd y côr yn 1891, ers hynny, wedi bod ar flaen y gad o ran canu meibion. Mae’n cael ei chydnabod yn eang fel un o gorau amlycaf Cymru ac mae ei record yn y maes cystadleuol heb ei ail.[/b]
Cyfarwyddwr Cerdd: James Llewelyn Jones B Mus (Hons). M Mus.
Cyfeilydd a Chyfarwyddwr Cerdd Cynorthwyol: Kevin Whitley B.Mus (Hons) ALCM MBA
Math: Digwyddiad Cymunedol
Pennawd: Cerdd
Dyddiad: Dydd Sadwrn 22ain Mehefin
Amser: 7:00yh
Tocynnau: £15.00
Cliciwch ar y ddolen i archebu tocynnau:
https://stiwt.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/873657408 Daw Hen Fegin o ogledd Powys ac mae eu sain yn cynnwys harmonïau clos y canu “plygain” traddodiadol sy’n gysylltiedig â’r ardal hon o Gymru. Ymhlith yr aelodau mae Roy Griffiths a Jack Gittins, a fu unwaith yn aelodau o Plethyn. Yn ymuno â nhw mae Bryn Davies ar yr acordion a Rhys Jones ar y ffidil.
Triawd gwerin acapella yw Sorela sy’n cynnwys tair chwaer o Aberystwyth, Cymru. Maent yn canu cymysgedd eclectig dwyieithog o alawon gwerin Cymreig traddodiadol, hits pop y 90au, clasuron y 50au a gweithiau gwreiddiol i gyd mewn acapella.
Ystyrir Linda Griffiths yn un o brif eiriolwyr canu gwerin digyfeiliant traddodiadol Cymreig. Mae hi wedi llwyddo i symud y traddodiad yn ei flaen tra’n parchu ei hanfod, ac mae ei phwysigrwydd yn adfywiad canu gwerin Celtaidd yn cael ei gydnabod yn eang. Stiwt Box Office: 01978 841300
www.stiwt.com