Cerdyn Post o Wald y Rwla - Cwmni Theatr Arad Goch


Ein cynhyrchiad theatr newydd i blant a theuluoedd

Math: Digwyddiad Ysgolion/Cymunedol

Pennawd: Drama

Dyddiad: Dydd Iau 13eg o Fehefin

Amser: 10:00yb & 1:00yp

Pris Tocyn: £7.00 Plentyn - £12 Tocyn safonol,unigol


Cliciwch ar y ddolen i archebu tocynnau: https://stiwt.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/873655665

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn adnabyddus am ei ddramâu i blant, ac mae cynyrchiadau Rala Rwdins wedi bod yn rhan bwysig o waith y cwmni ers y cychwyn! Mae Rala Rwdins a’u ffrindiau wedi llwyddo i drosglwyddo o’r llyfr i’r llwyfan ac i’r sgrin fach, ac mae cenedlaethau o blant wedi eu magu yng nghwmni’r cymeriadau.

Dewch i gwrdd â Rala Rwdins, Rwdlan, Dewin Doeth, Dewin Dwl, Llipryn Llwyd, Strempan a heb anghofio Mursen y gath, ac ymuno yn yr helynt wrth iddynt fynd ar eu gwyliau. Ac fel arfer yng nghwmni’r criw mae yna gastiau a thriciau gyda digon o ganu a chwerthin!

Addas i / Suitable for: 3+ (Key Stage 1) Hyd / Running time: 55 mins / Cerdyn Post o Wlad y Rwla is a Welsh language production aimed at children aged 3-8,



Cysylltwch â Swyddfa Docynnau'r Stiwt ar 01978 841300 am ragor o wybodaeth


Cerdyn Post o Wald y Rwla - Cwmni Theatr Arad Goch