Emerge Celfyddydau Cymunedol

Mae ‘Emerge Community Arts’ yn cynnal sesiwn Cerddoriaeth a Symud wythnosol mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales bob prynhawn dydd Llun yn ystod y tymor ac mae te/coffi yn gynwysedig.

Mae croeso i oedolion 16+ sydd ag anabledd dysgu neu gorfforol a/neu gyflyrau niwrolegol.

Nod y sesiwn yw dod â phobl at ei gilydd, yn enwedig y rhai a allai fod yn teimlo'n ynysig. Dewch draw i wneud ffrindiau, canu eich hoff ganeuon, dysgu sgiliau, chwarae offerynnau, rhannu eich diddordebau a chael llawer o hwyl!

Cysylltwch i archebu lle neu i roi cynnig arni (Anna -07828133467 anna@emerge.org.uk)


Math: Digwyddiad agored

Pennawd: Cymuned

Dyddiad: Pob Dydd Mawrth

Amser: 1yp - 3yp

https://youtu.be/en-i7_uC1ig


Stiwt Box Office 01978 841300 - www.stiwt.com



Emerge Celfyddydau Cymunedol