Parti Priodas – Theatr Genedlaethol Cymru - 7fed o Fai



Math: Digwyddiad Cymunedol

Pennawd: Drama

Dyddiad: 7fed o Fai

Amser: 7:30yh

Pris Tocyn: £14.00 (Llawn) - £10.00 Cons)

Gostyngiad o 10% ar bris tocyn i’r rhai sy’n rhan o gynllun SIARAD. Dim ond ar gael trwy gysylltu â'r Swyddfa Docynnau (01978 841300)

Parti Priodas gan Gruffudd Owen

Emynau, tensiynau, a dawnsio ar ben byrddau! Dyma’ch gwahoddiad i barti priodas Dafydd a Samantha…

Ond pwy arall sy’ ar y rhestr westeion? Mae Lowri yn benderfynol o oroesi diwrnod priodas ei brawd. Ond gyda hwnnw ar drothwy pennod newydd cyffrous yn ei fywyd, ydi dyfodol Lowri a’r fferm deuluol ar fin cael ei chwalu’n rhacs? Mae Idris yn hiraethu am ei hen ffrind gorau ac yn dychwelyd i Lŷn ar gyfer y diwrnod mawr. Ond a fydd cyfrinachau’r gorffennol yn difetha diwrnod pawb?

Yn dilyn llwyddiant ysgubol yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y llynedd, ymunwch gyda ni am wledd o ddrama gomedi gan Gruffudd Owen wedi’i chyfarwyddo gan Steffan Donnelly, ac yn serennu Mared Llywelyn a Mark Henry Davies.

Bydd hwn yn barti i’w gofio!


Canllaw Oed: 16+

Cliciwch ar y ddolen i archebu tocynnau: https://stiwt.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/873657052



Cysylltwch â Swyddfa Docynnau'r Stiwt ar 01978 841300 am ragor o wybodaeth


Parti Priodas – Theatr Genedlaethol Cymru - 7fed o Fai