CALON Y GYMUNED
Ymunwch a thrigolion Rhosllannerchrugog a’r cylch - i ddathlu penblwydd adeilad fu’n galon y gymuned ac yn ysbrydoliaeth i’r celfyddydau am gan mlynedd.
Ar ddiwedd Medi 2026 bydd y Plas Mwynwyr ( Y Stiwt) yn y Rhos yn dathlu canmlwyddiant yr adeilad a agorwyd ym 1926 (blwyddyn y Streic Gyffredinol) gyda chyfraniadau gan y glowyr lleol o 2d yr wythnos o’u cyflog am bron i ddegawd.
Adeiladwyd fel canolfan i hybu diwylliant, difyrrwch ac addysg yn yr ardal – a bu’n ganolfan a ysbrydolodd lawer o wleidyddion, addysgwyr, cerddorion ac actorion Cymru.
Yng ngwyneb cau’r Stiwt yn y 70au, a’r bygythiad o’i dymchwel, aeth y gymuned leol ati i godi arian a gweithio’n wirfoddol i’w hachub, ac ym 1997 ailagorwyd y Stiwt ar ei newydd wedd gan ddod eto’n gongfael diwylliant a’r iaith Gymraeg ar y ffîn.
Dros 30 mlynedd yn ddiweddarach rydym am gofio’r gorffennol, ddathlu’r presennol a sicrhau dyfodol i’r adeilad trwy nifer of ddigwyddiadau cyffrous yn yr ardal yn ystod 2026 a fydd yn dod i uchafbwynt gyda phenwythnos arbennig: 25ain- 27ain o Fedi - yn nodi can mlynedd union ers agoriad yr adeilad.
Rydym yn awyddus gasglu archif, straeon ac hefyd i gofnodi geirfa unigryw yr ardal er mwyn creu cyfol arbennig i ddathlu’n tafodiaith.
Mae pwyllgor wedi ei ffurfio i lywio’r flwyddyn arbenning hon ( bydd y canmlwyddiant hefyd yn rhan o Flwyddyn Rhyfeddod Wrexham) ac rydym yn awyddus i groesawy mwy i ymuno a ni ar gyfer y fenter.
Rydym yn falch o’n partneriaid megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Wescam, Theatr Clwyd, Minera Stiwdios Cymru; ac yn ddiolchgar am gefnogaeth Ty Pawb, Avow, Ffilm Cymru, BBC Cymru, Screen Alliance Wales, Menter Iaith Flint a Wrecsam, ynghyd â chynghor Bwrdeistref Wrecsam, y cynghorau a mudiadau cymhunedol lleol.
Mae lle i fwy!
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM A’R CYLCH
2-9fed AWST 2025
Bydd digwyddiadu ar y maes yn ystod Eisteddfod Wrecsam yn cynnwys:
- Dydd Sul 3ydd o Awst. Sesiwn yn y Babell Lên am dafodiaith yr ardal.
- Nos Fawrth 5ed of Awst. Digwyddiad adlonnianol ym mhabell Encore i hybu’r canmlwyddiant.
Cadwch lygad am ddigwyddiadau eraill gyda blas lleol ar y maes yn ystod yr wythnos
Bydd mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau, partneriaid a chefnogwyr yn cael ei gynnwys fel mae’n cael ei gadarhau ar y dudalen hon – felly cofiwch ymweld yn aml am fwy o wybodaeth ac am ddyddiad cyfarfod cyhoeddus yn y Stiwt yn fuan i rannu gweledigaeth, ac i wahodd syniadau, cymorth a chyfraniadau.
Gallwch hefyd gynnig eich cymorth rwan drwy ebosio yma ( rhowch Stiwt 2026 fel pwnc)gyda’ch enw a sut gallwch gyfarnnu gyfrannu – fel aelod o’r pwyllgor, trwy gyfraniad mewn da neu’n ariannol, neu trwy gynnig syniadau am ddigwyddiadau.
Mwynhewch y digwyddiadau! Ymunwch a’r dathlu ! Cyfranwch at yr achos
Digwyddiadau:
Ionawr/Chwefror 2026.
Un or digwyddiadau cynnar bydd cyfle i wneuthurwyr ffilm lleol sydd ar fîm amlygu eu hunain. Mae Ffilm Cymru/Wales wedi ariannu’r proisect yma drwy gwmni Red Seam Productions, gyda chefnogaeth Minera Studios Cymru.
Gwahoddir ceisiadau ym mis Medi/Hydref 2025 – cadwch lygad ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.