Stiwt - Man Cynnes
Dewch i gadw'n gynnes, mwynhewch y cyfleusterau a chael paned!
Rydym yn gallu darparu Man Cynnes ddwywaith yr wythnos – 1pm tan 4pm ar ddydd Mawrth a dydd Mercher.
Siarter Mannau Cynnes ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bydd croeso cynnes i chi yn ogystal â Man Cynnes
Bob tro y byddwch yn dod i ofod Cynnes byddwch yn cael croeso cynnes gan staff a gwirfoddolwyr yno.
Mae pawb yn cael eu trin yn gyfartal, gydag urddas a pharch
Mae gan bawb hawl i fod yn gynnes, felly mae pawb mewn Man Cynnes yn trin pobl, ac yn cael eu trin gan bobl, ag urddas a pharch.
Bydd eich Man Cynnes yn fan diogel
Bydd Eich Man Cynnes yn cadw at y polisïau diogelu a ddefnyddir bob amser.
Nid oes ots pam fod angen Man Cynnes arnoch
Mae pob Gofod Cynnes yn ofod anfeirniadol; beth bynnag fo’r rheswm sydd gennych dros fod angen dod i mewn, byddwch yn cael eich trin yr un fath a byth yn cael eich barnu.
Cadw'n Gynnes - Cadw'n Iach
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa Docynnau’r Stiwt ar: 01978 841300 (www.stiwt.com)