croeso
Mae’r Stiwt yn gartref i theatr hyfryd gyda 490 o seddau a bwa proscenium, ynghyd â thri gofod hyblyg adeiladwyd a chynhelir gan ac ar gyfer y gymuned. Agorwyd am y tro cyntaf yn 1926 a’i ail-agor yn 1999. Mae’r Stiwt wedi ei gofrestru fel elusen gynhelir gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau’r Stiwt, cyf.
Cysylltwch â ni i drafod sioeau arfaethedig, gweithgareddau neu hurio ystafelloedd.
Gobeithiwn eich gweld yn y Stiwt yn fuan. Dewch i’n helpu i ddathlu ein 97ain penblwydd.
Stiwt 1926-2023
beth sydd ymlaen
Edrychwch ar ein calendr i weld beth sydd ymlaen yn y dyfodol agos.
y lleoliad
Gall y Stiwt gynnal ystod eang o weithgareddau, cynadleddau, sioeau ar daith a chyfarfodydd.
Mae lifft cefn llwyfan yn cynnig mynediad i bob lefel ag eithrio'r oriel. Mae maes parcio tu cefn i’r theatr gyda lle ar gyfer 40 car. Ceir mynedfa uniongyrchol ar gyfer cadeiriau olwyn
hanes
Mae gan y Stiwt hanes hir a phwysig o fewn y gymuned.
cyfeillion
Mae gan Cyfeillion y Stiwt raglen brysur o weithgareddau.
stiwt ifanc
Pobl ieuainc yw dyfodol y Stiwt ac mae angen eich mewnbwn a syniadau arnom.
Cefnogir gan Gyngor Bwrdeisdref Wrecsam, Cyngor Cymuned y Rhos, Cyfeillion y Stiwt a Chyngor Celfyddydau Cymru.