Datganiad Cyngor Celfyddydau Cymru

Y STIWT YN DERBYN CYMORTH CYNGOR Y CELFYDDYDAU YN YSTOD HER COFID 19

Wrth i rai o drefniadau’r cyfnod cloi gael eu llacio, mae diwydiant y celfyddydau ledled y DU yn wynebu dyfodol ansicr heb fawr o arwydd y bydd perfformiadau byw yn dychwelyd yn fuan. Mae llawer o theatrau yn ddibynnol iawn ar y cyllid o’u tymor pantomeim Nadolig ac nid yw'r Stiwt yn Rhosllannerchrugog yn eithriad. Mae'r adeilad hefyd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth gan grwpiau a chorau lleol ond mae’r gofyn o ran cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr yn gwneud cyfarfodydd yn anodd sy’n ychwanegu at y gostyngiad refeniw y mae'r Stiwt yn ei wynebu.

Mae’r Stiwt yn cael ei redeg gan ymddiriedolaeth elusennol a reolir gan ymddiriedolwyr gwirfoddol. Bu’n rhaid iddynt wneud y penderfyniad anodd ar ddechrau'r argyfwng ac wythnos cyn y cyfnod cloi, i gau'r lleoliad a throsglwyddo holl staff y theatr heblaw am y swyddog cyllid i mewn i Gynllun Furlough Llywodraeth y DU. Roedd y theatr wedi gweld gostyngiad o 80% yn yr incwm o docynnau yn ystod mis Chwefror o’i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, wrth i'r pryder ynghylch yr haint gynyddu ac ymledu drwy wledydd Ewrop. Yn ystod mis Chwefror a dechrau mis Mawrth roedd cronfeydd wrth gefn y theatr wedi eu defnyddio bron yn llwyr ar gyfer cyflogau a chostau eraill yn wyneb y gostyngiad sylweddol hwn mewn incwm. Gwnaeth y Stiwt ymateb yn gyflym i’r hyn oedd yn digwydd gan wneud cais ar unwaith o dan Gronfa Parhad Busnes Llywodraeth Cymru. Roedd hyn yn llwyddiannus ac mae wedi sicrhau y gellir talu am rai o'r costau parhaus tra bod yr adeilad ar gau.

Dywedodd Aled Roberts, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y Stiwt:

"Mae'r achosion Cofid-10 wedi cael effaith syfrdanol ar ein refeniw ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus gan Gyngor Wrecsam a Chyngor Cymuned Rhos. Rydym hefyd wedi bod yn ffodus iawn o gael grant ychwanegol gan Gronfa Sefydlogi Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r arian hwn yn rhan o'r £600,000,000 sy’n cael ei ddarparu gan y Loteri Genedlaethol i gefnogi cymunedau ledled y DU yn ystod argyfwng Coronafeirws. Bydd y cronfeydd hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i ni dros y misoedd nesaf er mwyn talu treuliau tra bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau y gall gweithgareddau ddigwydd unwaith eto ".

Mae gwirfoddolwyr yn y Stiwt hefyd wedi lansio ymgyrch Just Giving lle gwahoddir cefnogwyr i brynu tocyn ar gyfer digwyddiad rhithiol sy'n cael ei ddarlledu ar 20 Gorffennaf yn dangos casgliad o ddigwyddiadau'r Stiwt ers 1990. Ychwanegodd Mr Roberts:

"Mae dros £1,800 wedi ei godi hyd yma ar gyfer ein hapêl JustGiving ac rydym yn ddiolchgar i'r bobl leol sy'n parhau i'n cefnogi. Mae llawer o'r sioeau a oedd bod wedi digwydd yn ystod y cyfnod cloi i bellach yn cael eu haildrefnu a bydd manylion yn cael eu gosod ar y wefan yn fuan. Bydd penderfyniad hefyd yn cael ei wneud yn fuan os fydd y panto poblogaidd yn mynd yn ei flaen unwaith y cyhoeddir y canllawiau ar gyfer theatrau yng Nghymru”.


www.stiwt.com


Datganiad Cyngor Celfyddydau Cymru